Mewnbwn sain
Darganfod sut i ddefnyddio meicroffon parod y micro:bit newydd i reoli'ch rhaglenni a mesur seiniau o'ch cwmpas
Mae gan y micro:bit newydd â sain synhwyrydd meicroffon parod. Gall ymateb i seiniau uchel a thawel, a mesur pa mor swnllyd yw'ch amgylchedd hefyd.
Mae'r meicroffon ar gefn y micro:bit newydd, ac ar y blaen byddwch yn dod o hyd i LED meicroffon newydd wrth ymyl y twll sy'n gadael i'r sain ddod i mewn. Mae'n goleuo i ddangos i chi pan fydd eich micro:bit yn mesur lefelau sain.
Bydd y prosiectau hyn yn eich rhoi ar ben ffordd i greu cod gan ddefnyddio'r meicroffon:

Curo'ch dwylo i wneud i galon y micro:bit guro

Gwneud i'r goleuadau fflachio i'r rhythm

Profwch pa ddeunyddiau yw'r inswleiddwyr sain gorau
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.