Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Bydd y cwmpawd syml hwn yn dangos i chi pa ffordd yw'r Gogledd.
Sut mae'n gweithio
- Mae gan eich micro:bit synhwyrydd cwmpawd a elwir yn magnetomedr sy'n mesur meysydd magnetig. Gall synhwyro maes magnetig y Ddaear ac felly gallwch ei ddefnyddio fel cwmpawd.
- Pan fyddwch yn defnyddio cwmpawd y micro:bit am y tro cyntaf mae rhaid i chi ei raddnodi. Mae gêm fach yn ymddangos ar y sgrin pan fydd yn rhaid i chi wyro'r micro:bit i oleuo pob LED, wedyn byddwch yn barod i fynd.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen ddiderfyn (am byth) i barhau i gymryd darlleniadau cwmpawd ac mae'n eu cadw mewn newidyn a elwir yn 'bearing'. Wedyn, mae'n defnyddio dewis: datganiad os... arall i ddangos N ar gyfer y Gogledd (North) ar y dangosydd LED os yw'r cyfeirbwynt yn fwy (>) na 315 gradd neu'n llai na (<) 45. Mae hyn yn golygu y bydd yn dangos i chi lle mae'r Gogledd os yw eich micro:bit yn pwyntio'n fras at y cyfeiriad cywir.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- planed â phegynnau magnetig i sefyll arnynt - er enghraifft, y Ddaear!
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud y cwmpawd yn fwy cywir drwy leihau'r ystod o gyfeirbwyntiau: gwneud y rhif 45 yn llai a 315 yn fwy.
- Ychwanegu pwyntiau eraill at y cwmpawd i ddangos pan fydd y micro:bit yn pwyntio at y Dwyrain, Gorllewin a De.
- Ychwanegu sŵn fel ei fod yn gwneud sŵn pan fydd yn pwyntio at y Gogledd er mwyn i rywun sydd â nam ar ei golwg allu defnyddio'r cwmpawd.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.