Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Larwm di-wifr i'ch rhybuddio pan fydd rhywun yn agor drws – neu'n ei adael ar agor.
Sut i'w wneud
- Bydd angen dau micro:bit gyda chod gwahanol ar bob un. Mae un micro:bit yn gweithredu fel trosglwyddydd radio a'r llall fel derbynnydd radio.
- Cysylltwch y micro:bit sy'n drosglwyddydd a'r pecyn batri i gornel ffrâm drws a gosodwch fagnet yn agos ato ar gornel drws.
- Rhowch y micro:bit sy'n dderbynnydd yn unrhyw le gerllaw.
- Os nad yw'r larwm yn gweithio yn ôl y disgwyl, efallai y bydd angen i chi newid rhif cryfder y grym magnetig yn y cod trosglwyddydd. Mae pwyso'r botwm A yn dangos y darlleniad grym magnetig cyfredol. Defnyddiwch hwn i benderfynu ar y rhif trothwy, gan gymryd darlleniadau gyda'r drws ar agor a chau.
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen trosglwyddydd yn defnyddio cwmpawd (magnetomedr) synhwyrydd mewnbwna doleny micro:bit i fesur cryfder y maes magnetig bob dwy eiliad.
- Mae'n defnyddio dewis felly pan fydd cryfder y maes magnetig yn disgyn o dan lefel benodol (y trothwy), mae'n anfon signal radio 'ar agor'. Os yw'r darlleniad magnetedd yn mynd uwchlaw'r trothwy, mae'n anfon y signal 'ar gau'.
- Pan fydd y micro:bit sy'n dderbynnydd yn derbyn y signal ‘ar agor’, mae croes yn ymddangos ar ei ddangosydd LED ac mae larwm clywadwy yn canu. Pan fydd yn derbyn y signal ‘ar gau’, mae tic yn ymddangos ar ei sgrîn LED c nid oes sain yn chwarae.
Beth sydd ei angen arnoch
- dau micro:bit ac o leiaf un pecyn batri
- magned
- pwti gludiog i osod magnet ar ddrws a micro:bit ar ffrâm drws
- os oes gennych chi micro:bit V1 ac rydych chi eisiau clywed larwm clywadwy, clustffonau, swnyn neu seinydd dewisol a cheblau clip crocodeil i'w cysylltu
Cam 2: Codio
Synhwyrydd / trosglwyddydd:
1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=17)
4radio.on()
5
6while True:
7 if button_a.was_pressed():
8 display.scroll(compass.get_field_strength())
9 if compass.get_field_strength() < 100000:
10 display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
11 radio.send('open')
12 else:
13 display.clear()
14 radio.send('closed')
15 sleep(2000)
16
Larwm / derbynnydd:
Cam 3: Gwella
- Defnyddio mwy nag un micro:bit i olrhain statws gwahanol ddrysau drwy anfon gwahanol negeseuon radio, e.e. 'drws cefn ar agor'.
- Defnyddio newidyn i fesur am faint o amser mae drysau'n cael eu gadael ar agor – allai hyn eich helpu i arbed ynni gwresogi?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.