Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio swyddogaeth syml i drosi darlleniadau canradd o synhwyrydd tymheredd y micro:bit yn Fahrenheit.
Sut mae'n gweithio
- Mae gan brosesydd y micro:bit fewnbwn synhwyrydd tymheredd parod sy'n rhoi darlleniadau mewn canradd.
- Mae defnyddio swyddogaethau'n eich galluogi i drosi'r tymheredd yn Fahrenheit yn hawdd.
- Mae'r swyddogaeth convertCtoF yn golygu eich bod yn gallu ailddefnyddio'r cod trosi'n hawdd, er enghraifft mewn thermomedr uchafswm-lleiafswm.
- Gelwir y swyddogaeth drwy ddefnyddio convertCtoF yn lle newidyn neu rif pan fyddwch yn gwasgu botwm B ar eich micro:bit.
- Rydym yn trosglwyddo i'r swyddogaeth y tymheredd mewn canradd.
- Wedyn, mae'r swyddogaeth yn cymryd y rhif a drosglwyddwyd iddo, wedi'i gadw mewn newidyn a elwir yn C, a'i drosi yn Fahrenheit drwy ei luosi ag 1.8 ac ychwanegu 32.
- Wedyn, mae'r swyddogaeth yn dychwelyd y rhif wedi'i drosi er mwyn dangos y tymheredd mewn Fahrenheit ar allbwn y dangosydd LED pan fyddwch yn gwasgu botwm B.
- Os byddwch yn gwasgu botwm A, dangosir y tymheredd mewn canradd.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwella'r dangosydd drwy ddangos 'C' neu 'F' ar ôl y tymheredd mewn canradd neu Fahrenheit.
- Creu eich swyddogaeth eich hun i ychwanegu trosiad i degrees Kelvin pan fyddwch yn gwasgu botymau A a B gyda'i gilydd.
- Ychwanegu trosiadau Fahrenheit at thermomedr uchafswm-lleiafswm neu thermomedr dan do-y tu allan.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.