Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Rhaglennu'ch micro:bit i chwarae tôn enwog - neu un o'ch rhai chi.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Cysylltwch glustffonau, neu seinydd wedi'i fwyhau â phinnau 0 a GND ar eich micro:bit i glywed y sain.
- Mae pin 0 yn gweithio fel allbwn pan rydym yn chwarae cerddoriaeth ar y micro:bit.
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio nodau cerddorol i chwarae alaw werin Ffrengig enwog. Mae ‘Frère Jacques’ yn ailadrodd pob bar ddwywaith. Gallem raglennu micro:bit i chwarae'r un nodau eto, ond mae'n haws o lawer i ddefnyddio iteriad (a adnabyddir hefyd fel dolen). Mae'r rhaglen hon yn defnyddio dolennau sy'n chwarae pob bar ddwywaith i arbed rhaglennu'r un nodau ddwywaith.
- Mae adnabod patrymau fel hyn yn rhan o feddwl cyfrifiadol, ffordd o sicrhau bod rhaglenni cyfrifiadurol mor effeithlon â phosibl, gan ddefnyddio'r darn lleiaf o god i gyflawni tasg - neu berfformio darn o gerddoriaeth!
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- pâr o glustffonau, swnyn neu seinydd a fwyhawyd
- dau gebl clip crocodeil
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Cyflymu'r alaw neu ei harafu drwy newid y tempo.
- Cwblhau'r dôn gyfan. Y nodau ychwanegol fydd eu hangen arnoch yw GAGFEC, CGC ond bydd angen i chi chwarae'r 4 nodyn cyntaf am hanner curiad, nid 1 curiad. Cofiwch ddefnyddio dolennau i wneud eich cod yn fwy effeithlon.
- Rhaglennu tonau eraill gan ddefnyddio cerddoriaeth ddalen neu greu eich un eich hun.
- Gallwch ddysgu mwy am sut mae cerddoriaeth micro:bit yn gweithio yn Python yma.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.