Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Chwarae gwahanol alawon gan ddefnyddio synhwyrydd cyffwrdd micro:bit.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae'r prosiect hwn yr un fath â'r Prosiect jiwcbocs ond yn lle defnyddio'r botymau micro:bit, byddwch chi'n gwneud eich dyfais fewnbynnu eich hun gan ddefnyddio cardbord sydd wedi'i orchuddio â stribedi o ffoil tun sydd wedi'i gysylltu â cheblau clip crocodeil i binnau'r micro:bit.
- Fflachiwch y rhaglen ar eich micro:bit.
- Cysylltwch un pen o dri chebl clip crocodeil i binnau 1, 2 a GND (pin daear). Cysylltwch y pennau eraill i gitâr neu allweddell cardbord.
- Gydag un bys, cyffyrddwch â'r ffoil sydd wedi'i gysylltu â GND, a gyda bys arall cyffyrddwch â'r ffoil sydd wedi'i gysylltu â phin 1 ac yna pin 2. Dylai chwarae alaw wahanol yn dibynnu ar ba stribed o ffoil rydych chi'n ei gyffwrdd.
- Mae'r micro:bit yn defnyddio pinnau 1 a 2 fel mewnbynnau cyffwrdd. Pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'r naill neu'r llall o'r pinnau hyn a'r pin GND, rydych chi'n cwblhau cylched drydanol. Mae ychydig bach o drydan yn llifo trwoch chi, gall y micro:bit ei ganfod ac mae'r rhaglen yn sbarduno chwarae alaw.
- Os nad oes gennych chi micro:bit V2, sy'n chwarae sain, atodwch glustffonau i'r pinnau 0 a GND.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- Golygydd MakeCode neu Python
- tri chebl clip crocodeil
- cardbord, ffoil tun, ffon lud a siswrn i wneud gitâr neu allweddell
- yn ddewisol clustffonau, swnyn, neu seinydd gyda dau gebl clip crocodeil ychwanegol ar gyfer defnyddwyr V1
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid yr alawon sy'n cael eu chwarae pan fyddwch chi'n cyffwrdd â'r ffoil tun.
- Rhaglennu eich tonau eich hun.
- Dangos lluniau, llythrennau, rhifau neu eiriau gwahanol yn dibynnu ar ba alaw a ddewisoch.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.