Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud i'ch gitâr neu allweddell micro:bit chwarae cordiau ag un cyffyrddiad.

Sut mae'n gweithio
- Dim ond un nodyn ar y tro y gall y micro:bit chwarae, felly ni all chwarae cord go iawn. Fodd bynnag, gall chwarae cord wedi'i dorri neu arpeggio: cymryd 3 nodyn o unrhyw gord a'u chwarae un ar ôl y llall a byddant yn swnio'n dda gyda'i gilydd.
- Cysylltu micro:bit â chlustffonau er mwyn clywed sain.
- Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau'r micro:bit fel yn y prosiect Gitâr 1 - Tonau cyffwrdd.
- Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 1 bydd yn chwarae cord F fwyaf wedi'i dorri, pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 2 bydd yn chwarae cord A leiaf wedi'i dorri.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- clustffonau, swnyn neu seinydd wedi'i bweru
- 5 cebl clip crocodeil
- cardfwrdd, ffoil tun, glud, a siswrn opsiynol i wneud gitâr neu allweddell
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen i chwarae gwahanol gordiau, defnyddio botymau neu ystumiau'r micro:bit i ychwanegu mwy na dau.
- Newid y tempo i wneud i'r cordiau chwarae'n gyflymach. Yn MakeCode gallwch ddefnyddio'r blociau tempo. Yn Python newid y rhif yn y nodyn cyntaf: Mae
F4:4
yn golygu chwarae F yn y 4edd wythfed am hyd o 4. Gwneud yr ail 4 yn rhif llai a gweld beth sy'n digwydd. - Defnyddio dolennau i barhau i chwarae'r cordiau barhau fel teclyn arpeggio (nodwedd rhai allweddellau a syntheseiswyr sy'n achosi i arpeggio barhau i chwarae cyhyd â bod allwedd yn cael ei dal i lawr).
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.