Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio dau micro:bit fel y gallwch fonitro tymheredd yr awyr agored o bell.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae'r prosiect hwn yn defnyddio dwy raglen wahanol, un ar gyfer y micro:bit yn yr awyr agored sy'n synhwyro'r tymheredd ac yn ei drosglwyddo ar grŵp radio 23.
- Mae'r micro:bit yn yr awyr agored yn defnyddio ei synhwyrydd tymheredd i fesur pa mor boeth neu oer yw hi.
- Mae'n defnyddio radio i anfon darlleniad y tymheredd hwn i'r micro:bit dan do.
- Pan fydd y micro:bit dan do yn derbyn darlleniad tymheredd o'r tu allan, bydd yn ei gadw mewn newidyn a elwir yn outdoorTemp.
- Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A ar y micro:bit dan do, bydd yn dangos ei ddarlleniad tymheredd presennol ei hun ar ei allbwn dangosydd LED .
- Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn B, bydd yn dangos darlleniad y tymheredd y tu allan y mae wedi'i gadw yn y newidyn outdoorTemp.
Beth sydd ei angen arnoch
- Dau micro:bit
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri
- Cynhwysydd gwrth-ddŵr, megis blwch plastig
Cam 2: Codio
Synhwyrydd a throsglwyddydd y tu allan:
Synhwyrydd a derbynnydd dan do:
1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=23)
4radio.on()
5outdoorTemp = '-'
6
7while True:
8 message = radio.receive()
9 if message:
10 outdoorTemp = message
11 if button_a.was_pressed():
12 display.scroll(str(temperature()))
13 if button_b.was_pressed():
14 display.scroll(outdoorTemp)
15
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r batris bara'n hirach trwy gael y micro:bit y tu allan i droi ei radio i ffwrdd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio ac anfon darlleniadau tymheredd yn llai aml.
- Defnyddio newidynnau i olrhain y tymheredd uchaf ac isaf a gofnodwyd.
- Graddnodi'r darlleniadau yn erbyn thermomedr arall i weld a oes angen i chi addasu tymheredd y micro:bit.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.