Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddiwch gofnodi data gyda'ch BBC micro:bit V2 i gasglu darlleniadau mesurydd cyflymu i helpu i ddylunio traciwr ffitrwydd personol.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit V2
- cyfrifiadur a chebl USB meicro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
- pecyn batri micro:bit
- efallai y bydd ein canllaw cofnodi data yn ddefnyddiol
Casglu data
- Trosglwyddwch y cod isod i'ch micro:bit, yna datgysylltwch e o'ch cyfrifiadur.
- Cysylltwch becyn batri a chysylltwch y micro:bit i'ch esgid neu'ch coes.
- Mae data blaenorol yn cael eu dileu pan fyddwch yn trosglwyddo cod newydd i'ch micro:bit, ond gallwch hefyd ddileu hen ddata trwy bwyso'r botymau A a B gyda'i gilydd.
- Pwyswch y botwm A i ddechrau cofnodi data. Mae tic yn ymddangos ar y sgrîn. Mae bellach yn cofnodi data mesurydd cyflymu ddeg gwaith bob eiliad.
- Dechreuwch gerdded a chyfrwch faint o gamau rydych chi'n eu cymryd - rhowch gynnig ar ddeg i ddechrau.
- Yn yr achos annhebygol iawn y bydd log micro:bit yn llawn, bydd yr holl oleuadau ar y sgrîn LED yn goleuo.
- Pwyswch y botwm B i stopio cofnodi. Dylech weld X yn ymddangos i ddangos ei fod wedi stopio.
Dadansoddwch eich data
- Datgysylltwch y pecyn batri a phlygiwch y micro:bit i mewn i gyfrifiadur.
- Mae'r micro:bit yn ymddangos fel gyriant USB o'r enw MICROBIT. Edrychwch yno ac agorwch y ffeil MY_DATA i weld tabl o'ch data a rhagolwg gweledol yn eich porwr gwe:


- Mae data o'r mesurydd cyflymu wedi'i gofnodi mewn tri dimensiwn:

- Cliciwch ar rhagolwg gweledol i weld y data fel graff. Archwiliwch e i weld a allwch chi weld lle cymerodd y defnyddiwr ddeg cam:

Defnyddiwch eich data
Wrth astudio'r data hyn gallwch weld bron bob tro y cymerwyd cam, roedd y darlleniad yn yr echelin Z yn uwch na 500.
Felly gyda'r set ddata hon, efallai y byddwn yn defnyddio'r rhif 500 fel y trothwy i'w ddefnyddio yn y prosiectCyfrifwr camau sensitif, gan addasu'r bloc 'cryfder (mg) cyflymiad' i ddarllen 'cyflymiad (mg) z > 500'.
Mae hyn yn golygu eich bod chi wedi casglu data sy'n unigryw i'r ffordd rydych chi'n cerdded, a'u defnyddio i wneud cynnyrch digidol personol sy'n gweithio'n well i chi.
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gallech chi ddefnyddio'r cofnodwr data symud i gymharu gwahanol barasiwtiau a sut maen nhw'n effeithio ar gyflymiad micro:bit wrth iddo ddisgyn.
- Copïwch a gludwch y data i mewn i daenlen i'w dadansoddi mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft gan ddefnyddio offer ystadegol.
- Defnyddiwch daenlen i ddelweddu'r data mewn ffyrdd eraill a gwnewch gyflwyniad am eich prosiect.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.