Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Creu larwm tresbaswr di-wifr a fydd yn eich rhybuddio pan fydd rhywun yn camu ar synhwyrydd gwasgedd rydych wedi'i wneud.
Sut mae'n gweithio
- Fflachio'r rhaglen synhwyro ar micro:bit
- Gwneud switsh mewnbwn gwasgedd o gardfwrdd a ffoil tun fel yn y llun. Plygu'r switsh a'i roi o dan rỳg neu garped. Efallai bydd angen i chi ychwanegu ychydig o sbwng i gadw'r ddwy ochr ar wahân. Cysylltu'r ddau bad ffoil ar un ochr â phinnau 0 a GND ar y micro:bit synhwyro. Pan fyddwch yn camu arno, bydd y ffoil ar y brig yn cwblhau cylched drydanol, ac yn anfon neges radio 'tresbaswr'.
- Fflachio rhaglen y larwm ar y micro:bit arall (y larwm) a chysylltu seiniwr neu seinydd â phin 0 a GND os oes un gennych. Pan fydd yn derbyn y neges 'tresbaswr' bydd yn dangos wyneb crac ar y dangosydd LED ac yn canu sain larwm clywadwy. Gwasgu botwmA i glirio'r dangosydd.
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit ac o leiaf 1 pecyn batri
- 2 gebl clip crocodeil
- ffoil tun, cardfwrdd sgrap, glud, siswrn, sbwng
- seiniwr, seinydd wedi'i fwyhau neu glustffonau opsiynol a 2 gebl clip crocodeil
Cam 2: Codio
Synhwyrydd / trosglwyddydd:
Larwm / derbynnydd:
Cam 3: Gwella
- Ychwanegu synwyryddion eraill sy'n anfon eu neges eu hunain, e.e. 'ystafell1', 'ystafell2' a gwneud i'r larwm ddangos lle mae'r tresbaswr.
- Rhoi cynnig ar wahanol ddyluniadau ar gyfer y switsh gwasgedd. Er enghraifft, rhoi pad sbwng ynddo os yw'n cael ei sbarduno'n rhy hawdd.
- Gallech wneud larwm glaw gan ddefnyddio dau bad ffoil tun yn agos iawn at ei gilydd – os byddant yn gwlychu, byddant yn sbarduno'r larwm. Sicrhau nad ydych yn gwlychu'ch micro:bit er hynny!
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.