Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud gêm ymateb gyda switshis corfforol go iawn y gallwch eu bwrw mor galed ag yr hoffech!
Sut mae'n gweithio
- Gwneud dau switsh mewnbwn corfforol gan ddefnyddio cardfwrdd a ffoil tun – yn debyg i'r rhai a ddefnyddiwyd yn y Prosiect larwm switsh gwasgedd.
- Cysylltu'r switshys â phinnau'r micro:bit fel yn y llun – mae un pad ffoil tun ar bob switsh yn mynd i bin GND y micro:bit, a'r llall yn cael ei gysylltu â phin 1 neu bin 2, gan ddibynnu ar a ydych yn chwaraewr A neu chwaraewr B.
- Mae'r rhaglen yn aros am amser ar hap rhwng 1 a 5 eiliad, ac wedyn bydd yn dangos calon ar allbwn y dangosydd LED.
- Ni allwch wasgu'ch botwm cyn iddo oleuo gan ei fod yn defnyddio rhesymeg Booleaidd i atal unrhyw un rhag twyllo! Dau werth yn unig y gall fod gan newidynnau Booleaidd: Gwir neu Gau. Mae'r newidyn cychwynnwyd y gêm yn atal y naill chwaraewr neu'r llall rhag gwasgu eu botwm yn rhy gynnar drwy wirio pa fotwm sydd wedi'i wasgu tra bod y gêm wedi dechrau.
- Mae dolen ddiderfyn yn sicrhau bod y gêm yn parhau i redeg er mwyn i chi barhau i chwarae.
Beth sydd ei angen arnoch
- 1 micro:bit
- 4 cebl clip crocodeil
- Ychydig o gardfwrdd sgrap, ffoil tun, glud a siswrn
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2import random
3
4while True:
5 gameStarted = False
6 sleep(random.randint(1000, 5000))
7 gameStarted = True
8 display.show(Image.HEART)
9 while gameStarted:
10 if pin1.is_touched():
11 display.show('A')
12 gameStarted = False
13 elif pin2.is_touched():
14 display.show('B')
15 gameStarted = False
16 sleep(3000)
17 display.clear()
18
Cam 3: Gwella
- Defnyddio newidynnau i gadw llygad ar sgôr pob chwaraewr
- Ychwanegu amserydd i ddangos pa mor gyflym oedd ymateb pob enillydd
- Olrhain pa chwaraewr sydd â'r amser ymateb cyflymaf
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.