Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Mae crwbanod môr newydd ddeor yn defnyddio golau lleuad i gyrraedd y môr. Gall goleuadau tal a disglair eu drysu. Adeiladu prototeip golau traeth ar gyfer llwybrau sy'n arwain bodau dynol yn ddiogel ond nad ydynt yn tynnu sylw'r crwbanod.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
- Sut mae cyfrifiaduron yn cymryd darlleniadau o fewnbynnau, yn prosesu'r data i wneud allbynnau gwahanol yn dibynnu ar werth darlleniadau synhwyrydd
Sut mae'n gweithio
- Mae'r prosiect hwn yn defnyddio LEDs y micro:bit fel mewnbwn synhwyrydd golau. Gorchuddio'r dangosydd gyda'ch llaw a dylai oleuo gyda llun crwban.
- Gellid defnyddio'r golau ar y llawr i arwain bodau dynol ar draws llwybr traeth yn y nos, heb ddrysu crwbanod môr newydd ddeor gyda goleuadau tal a disglair efallai byddant yn eu camgymryd am y lleuad.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio dewis i synhwyro a yw'r golau sy'n cyrraedd y micro:bit yn llai na lefel benodol, os yw'n llai na (<) 100. Os bydd yn dywyll, bydd yn goleuo dangosydd y micro:bit, fel arall, bydd yn clirio'r sgrin fel bod yr LEDs yn dywyll.
- Efallai bydd angen i chi addasu'r rhif trothwy 100 gan ddibynnu ar amodau golau eich lleoliad. Os byddwch mewn lleoliad disglair iawn, efallai bydd angen rhif llai arnoch.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Creu eich llun eich hun i'w ddangos ar y dangosydd LED
- Ychwanegu animeiddiad
- Newid y dangosydd i ddangos saethau i sicrhau bod pobl yn cerdded ar ochr gywir y llwybr
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.