Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud eich peiriant sain eich hun gan ddefnyddio botymau a mesurydd cyflymiad y micro:bit.
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect Theremin Scratch, mae'n defnyddio'r mesurydd cyflymiad i fesur yr ongl gwyro i gynyddu neu leihau traw seiniau.
- Yn lle defnyddio dolen 'am byth' i chwarae sain barhaus, bydd y prosiect hwn yn chwarae dwy sain wahanol o'r peiriant sain ar allbwn sain eich cyfrifiadur pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A neu fotwm mewnbwn B ar y micro:bit.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid seiniau'r peiriant sain neu ychwanegu seiniau eraill o lyfrgell seiniau Scratch.
- Recordio'ch seiniau eich hun, a'u sbarduno drwy wasgu botymau a newid y traw drwy wyro.
- Defnyddio cyfres o nodau i chwarae gwahanol donau pan fyddwch yn gwasgu gwahanol fotymau.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.