Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Chwarae cordiau go iawn ar gitâr micro:bit trydan
Sut mae'n gweithio
- Gwneud gitâr neu allweddell o gardfwrdd a ffoil fel yr un yn y llun.
- Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau mewnbwn 0, 1, 2 a GND ar y micro:bit.
- Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin GND ac un o'r pinnau eraill, bydd y rhaglen yn chwarae nodyn F, A neu C mewn sain gitâr ar allbwn sain eich cyfrifiadur.
- Os byddwch yn gwasgu pob un ohonynt ar yr un pryd, bydd yn chwarae'r 3 nodyn ar yr un pryd. Dyma gord F Fwyaf.
- Mae gwasgu botwm A neu B ar y micro:bit yn achosi i'r rhaglen symud y traw wythfed i fyny neu i lawr (newid y traw +120 neu -120 yn symud wythfed cyfan i fyny neu i lawr – 8 nodyn).
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit
- 4 cebl clip crocodeil
- cardfwrdd, siswrn, glud, ffoil tun
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r traw newid yn fwy main gyda rhifau llai: rhoi cynnig ar ddefnyddio 12 yn lle 120.
- Ychwanegu rheolydd lefel sain drwy fesur ongl gwyro eich gitâr micro:bit.
- Ychwanegu mwy o gordiau neu newid sain yr offeryn yn Scratch.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.