Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Dysgu i sut i wneud rheolydd gêm di-wifr gyda'ch micro:bit a Scratch - a helpu i fwydo tacos i'ch deinosor!
Sut mae'n gweithio
- I chwarae'r gêm, cysylltu'ch micro:bit â Scratch, wedyn gwyro'r micro:bit i symud y deinosor i ddal a bwyta tacos.
- Bob tro mae'r deinosor yn cyffwrdd â thaco, bydd y newidyn pwyntiau yn cynyddu gan 1.
- Osgoi'r chwilod – os byddwch yn cyffwrdd â nhw, bydd y newidyn yn lleihau gan 1.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio darlleniadau mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i synhwyro ym mha ffordd rydych yn ei wyro.
- Wedyn, mae'n defnyddio dewis i benderfynu beth fydd yn digwydd nesaf: os byddwch yn ei wyro ymlaen neu yn ôl bydd yn symud corlun y deinosor i fyny ac i lawr (ar yr echelin Y).
- Os byddwch yn ei wyro i'r chwith ac i'r dde, bydd yn symud y deinosor ar draws y sgrin ar yr echelin X.
- Mae'r rhaglen hefyd yn anfon eich sgôr i'r micro:bit er mwyn iddo ymddangos ar ei allbwn dangosydd LED.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ychwanegu sgôr fuddugol neu golli ar ddiwedd y gêm.
- Ychwanegu mwy o chwilod neu dacos neu bethau da a drwg eraill.
- Ychwanegu lefelau at y gêm i'w gwneud yn anos wrth i chi symud ymlaen.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.