Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio eich micro:bit i reoli rhaglen tynnu llun Scratch.
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i arwain corlun y pensil o gwmpas y sgrin, gan dynnu llinell wrth iddo symud.
- Bydd gwyro'r micro:bit i'r chwith neu'r dde yn gwneud i'r pen symud i'r chwith neu'r dde ar yr echelin X, ar draws y sgrin.
- Bydd gwyro'r micro:bit ymlaen neu'n ôl yn gwneud i'r pen symud i fyny ac i lawr, ar yr echelin Y.
- Os byddwch yn ei wyro'n groeslinol, cewch linellau croes.
- Gallwch reoli trwch llinellau'r pen gyda botymau mewnbwn A a B y micro:bit.
- Ei ysgwyd i ddefnyddio mewnbwn mesurydd cyflymiad y micro:bit i godi a gostwng y pen, er mwyn symud o gwmpas heb wneud marc.
- Mae'r rhaglen yn olrhain statws y pen (a yw wedi'i godi neu'i ostwng) gan ddefnyddio newidyn a elwir yn penUp. Mae'n dangos gwahanol eiconau ar allbwn dangosydd y micro:bit er mwyn i chi wybod a yw'r pen wedi'i godi neu'i ostwng.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit.
- pecyn batri opsiynol
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ychwanegu ffordd o reoli pan fydd y lliw yn newid.
- Addasu'r rhaglen fel bod ysgwyd neu 'neidio'r' micro:bit yn clirio'r sgrin.
- Dangos trwch y pen ar ddangosydd y micro:bit.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.