Skip to content

Gweithgaredd

Tegan synhwyraidd

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad, Seinydd | Dylunio cynnyrch, Mewnbwn/allbwn, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Gwneud tegan synhwyraidd sy'n ymateb i symudiad gyda golau a sain.

Cyflwyniad

Canllaw codio

Beth fyddwch yn ei ddysgu

  • Sut i ddefnyddio mewnbynnau synhwyrydd mesurydd cyflymu integredig y micro:bit a seiniau mynegiannol fel allbynnau i greu tegan a allai helpu dysgwyr sy'n ymateb yn dda i ysgogiad trwy gyffwrdd, golau a sain. Chwaraeir gwahanol seiniau a dangosir gwahanol luniau gan ddibynnu ar sut rydych yn ei symud.

Sut mae'n gweithio

  • Mae synhwyrydd mesurydd cyflymiad parod y micro:bit yn mesur grymoedd.
  • Mae'r micro:bit yn defnyddio darlleniadau o'r mesurydd cyflymiad i sbarduno digwyddiadau pan fyddwch yn ei symud mewn gwahanol ffyrdd.
  • Os byddwch yn ysgwyd y micro:bit, bydd yn chwarae sain piffian chwerthin ar allbwn y seinydd parod ac yn dangos gwên ar y dangosydd LED.
  • Mae gwahanol allbynnau eicon a sain yn cael eu sbarduno drwy wahanol symudiadau fel gwyro'r micro:bit i'r chwith a'r dde neu ei roi gyda'r logo yn wynebu i fyny neu i lawr.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit V2 (neu efelychydd MakeCode)
  • Golygydd MakeCode neu Python
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import audio
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        display.show(Image.SURPRISED)
7        audio.play(Sound.GIGGLE)
8    if accelerometer.was_gesture('up'):
9        display.show(Image.HAPPY)
10        audio.play(Sound.HELLO)
11    if accelerometer.was_gesture('down'):
12        display.show(Image.ASLEEP)
13        audio.play(Sound.YAWN)
14    if accelerometer.was_gesture('left'):
15        display.show(Image.ARROW_W)
16        audio.play(Sound.SLIDE)
17    if accelerometer.was_gesture('right'):
18        display.show(Image.ARROW_E)
19        audio.play(Sound.SOARING)
20

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegwch luniau a synau gwahanol pan fyddwch chi'n pwyso'r botwm A neu B neu'n cyffwrdd â'r logo.
  • Arbrofwch gyda seiniau mynegiannol gwahanol fel 'piffian', 'hapus' a 'pefrio'.
  • Ychwanegu animeiddiad neu eich lluniau eich hun ar gyfer pob symudiad.
  • Creu cês neu gynhwysydd ar gyfer y micro:bit a phecyn batri sy'n caniatáu i'r sain ddod allan ac i oleuadau'r dangosydd LED ddisgleirio, a allai wasgaru'r golau LED ychydig o bosibl.
  • Os ydych yn athro neu athrawes, efallai bydd gennych ddiddordeb yn ein gwersi Ystafell ddosbarth synhwyraidd.

Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.