Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud cofnodydd lefel sain i fonitro pa mor swnllyd neu dawel y mae gwahanol leoedd o'ch cwmpas dros gyfnod o amser
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd meicroffon parod y micro:bit newydd i fesur pa mor uchel yw'r sain
- Defnyddio newidynnau a gweithredwyr i olrhain gwerthoedd uchaf wrth gasglu data'r byd go iawn
Sut mae'n gweithio
- Mae meicroffon y micro:bit newydd yn mesur lefelau sain mewn rhifau rhwng 0 a 255, yn union fel y synhwyrydd golau.
- Mae dolen yn cymharu'r lefel sain bresennol â'r newidyn Sainuchaf sy'n storio'r sain uchaf yn barhaus. Os bydd y sain bresennol yn uwch na'r sain uchaf flaenorol, bydd yn ailosod Sainuchaf i werth y sain uchaf newydd.
- Tu mewn i'r ddolen, mae datganiad os yn gwirio a ydych wedi gwasgu botwm A. Os byddwch, bydd yn dangos rhif y lefel sain ar allbwn y dangosydd LED. Gallwch ei ddefnyddio i fonitro pa mor swnllyd y mae gwahanol leoedd dros gyfnod o amser.
- Ailosod y gwerth uchaf drwy wasgu'r botwm ailosod ar gefn y micro:bit.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2maxSound = 0
3lights = Image("11111:"
4 "11111:"
5 "11111:"
6 "11111:"
7 "11111")
8# ignore first sound level reading
9soundLevel = microphone.sound_level()
10sleep(200)
11
12while True:
13 if button_a.is_pressed():
14 display.scroll(maxSound)
15 else:
16 soundLevel = microphone.sound_level()
17 display.show(lights * soundLevel)
18 if soundLevel > maxSound:
19 maxSound = soundLevel
20
Cam 3: Gwella
- Addasu'r prosiect er mwyn iddo recordio'r lefel sain dawelaf, neu isaf, hefyd.
- Defnyddio radio i anfon lefelau sain i micro:bit arall er mwyn eich bod yn gallu monitro lefelau sain o bell
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.