Skip to content

Gweithgaredd

Larwm gwyro

Uwch | MakeCode, Python | Mesurydd cyflymiad, Radio | Cyfathrebu, Grymoedd, Swyddogaethau, Synwyryddion

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Cadw eich pethau gwerthfawr yn ddiogel gyda'r larwm lladron hwn a reolir drwy radio.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Pan gaiff y micro:bit ei ysgwyd, bydd y mesurydd cyflymiad yn canfod symudiad ac yn dangos wyneb crac ar y dangosydd LED ac yn canu sain larwm.
  • Mae hefyd yn anfon neges radio 'lleidr!', er mwyn i micro:bit arall allu eich rhybuddio os bydd rhywun yn symud eich gwrthrych gwerthfawr.
  • Os bydd gennych ddau micro:bit, fflachio'r rhaglen hon ar y ddau ohonynt. Rhoi un yn, neu ar, y peth gwerthfawr rydych eisiau ei warchod a chadw'r llall yn agos atoch.
  • Gan ein bod eisiau dangos y wyneb crac a chwarae'r dôn 'BADDY' ar y micro:bit synhwyro symudiad yn ogystal â'r larwm, mae'r rhaglen hon yn defnyddio swyddogaeth (neu weithdrefn) a elwir yn larwm.
  • Mae gweithdrefnau a swyddogaethau yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y darnau cod rydym eisiau eu defnyddio ar wahanol adegau mewn rhaglen. Mae'n golygu na fydd rhaid dyblygu cod ac yn gwneud y rhaglen yn fwy cryno ac effeithlon.

Beth sydd ei angen arnoch

  • 2 micro:bit
  • pecyn batri
  • rhywbeth gwerthfawr i'w gadw'n ddiogel
  • clustffonau, seinyddion neu seinyddion wedi'u pweru a dau gebl clip crocodeil i'w cysylltu os ydych chi'n defnyddio micro:bit V1

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import radio
3import music
4radio.config(group=1)
5radio.on()
6
7def alarm():
8    display.show(Image.ANGRY)
9    music.play(music.BADDY)
10    
11while True:
12    message = radio.receive()
13    if message:
14        alarm()
15    if accelerometer.was_gesture('shake'):
16        radio.send('thief!')
17        alarm()
18

Cam 3: Gwella

  • Beth arall allech ei ddiogelu gyda larwm o'r fath? Sut gallai helpu i warchod coed?
  • Gwneud y larwm yn fwy sensitif gan ddefnyddio darlleniadau'r mesurydd cyflymiad neu ystumiau eraill.
  • Rhannu'r rhaglen yn ddwy, er mwyn cael rhaglenni gwahanol ar y synhwyrydd ar eich peth gwerthfawr ac ar y larwm rydych yn ei gadw gyda chi.
  • Anfon negeseuon gwahanol a dangos lluniau gwahanol ar gyfer synwyryddion larwm gwahanol ar wrthrychau gwerthfawr gwahanol.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Translation generously supported by the Welsh Government.