Skip to content

Gweithgaredd

Profwr tablau

Dechreuwr | MakeCode, Python | Botymau, Dangosydd LED | 4 Addysg o ansawdd, Ar hap, Lluosi, Newidynnau

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Profwch eich gwybodaeth am dablau gyda'r prosiect hwn.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn defnyddio daunewidyn o'r enw “a” a “b” i storio haprifau.
  • Mae newidynnau yn storio rhifau neu werthoedd a all newid mewn rhaglen gyfrifiadurol.
  • Pwyswch y botwm A i gynhyrchu haprif rhwng 1 a 12 ar gyfer y newidyn “a” a'i ddangos ar y sgrîn LED. Pwyswch y botwm B i gynhyrchu haprif arall rhwng 1 a 12 ar gyfer “b” a'i ddangos ar y sgrîn LED.
  • Ysgwydwch y micro:bit i ddarganfod beth yw'r cynnyrch - dyna beth fyddai'r ateb pe bai'r niferoedd yn cael eu lluosi â'i gilydd. Mae'r rhan hon o'r rhaglen yn gweithio gan ddefnyddio'r bloc lluosi o'r ddewislen mathemateg yn MakeCode.
  • Gallwch ddefnyddio'r prosiect hwn mewn gêm gystadleuol dau chwaraewr, lle mae'r ddau haprif yn cael eu darllen ar goedd a rhaid i bob chwaraewr weiddi'r ateb cywir yn gyntaf i ennill pwynt.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • pecyn batri (opsiynol)

Cam 2: Codio

1from microbit import *
2import random
3a = 0
4b = 0
5
6# Shake the micro:bit to see the answer in the Python version
7while True:
8    if accelerometer.was_gesture('shake'):
9        display.scroll(a*b)
10    if button_a.was_pressed():
11        a = random.randint(1, 12)
12        display.scroll(a)
13    if button_b.was_pressed():
14        b = random.randint(1, 12)
15        display.scroll(b)

Cam 3: Gwella

  • Addaswch y rhaglen fel ei bod yn eich helpu i ddysgu rhifau sgwâr.
  • Os ydych chi'n chwarae'r gêm dau chwaraewr, crëwch raglen arall ar micro:bit gwahanol i gadw golwg ar sgôr y chwaraewyr.
  • Defnyddiwch wahanol fewnbynnau yn y rhaglen hon i sbarduno gwahanol effeithiau sain, y gallwch chi eu chwarae pan fydd chwaraewyr yn rhoi ateb cywir neu anghywir.