Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Ychwanegu mynegiad arall at brosiect bathodyn emosiwn gan ddefnyddio synhwyrydd logo cyffwrdd newydd y micro:bit fel botwm ychwanegol
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut mae cyfrifiaduron yn defnyddio mewnbynnau, eu prosesu gan ddefnyddio cod a chreu gwahanol allbynnau
- Sut i ddefnyddio logo cyffwrdd newydd y micro:bit fel mewnbwn botwm i sbarduno allbynnau
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn synhwyro os ydych yn gwasgu botwm A ac yn dangos eicon wyneb hapus ar allbwn y dangosydd LED.
- Mae'n synhwyro os ydych yn gwasgu botwm B ac yn dangos wyneb trist ar y dangosydd LED.
- Os ydych yn cyffwrdd â'r logo aur ar flaen y micro:bit newydd, bydd y rhaglen yn synhwyro'ch bys ac yn dangos wyneb wedi'i synnu ar y LEDs.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid yr eiconau sy'n ymddangos, neu lunio eich un eich hun i ddangos gwahanol emosiynau.
- Creu dilyniant wedi'i animeiddio o wynebau pan fyddwch yn gwasgu pob botwm.
- Ychwanegu gwahanol synau sy'n cyd-fynd â phob emosiwn.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.