Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Goleuo'ch micro:bit gyda chalon - ond tra rydych yn ei gyffwrdd yn unig!
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd logo cyffwrdd y micro:bit newydd i sbarduno gwahanol ddigwyddiadau pan fyddwch yn ei gyffwrdd a phan fyddwch yn ei ryddhau
Sut mae'n gweithio
- Bydd y prosiect hwn yn goleuo'r dangosydd LED ag eicon calon, ond am gyhyd yn unig ag y byddwch yn dal eich bys ar y logo ar flaen y micro:bit newydd.
- Mae'r logo aur yn synhwyrydd cyffwrdd sy'n gweithio ychydig fel sgrin gyffwrdd ar ffôn symudol, gan fesur newidiadau bach iawn mewn trydan. Fe'i gelwir hefyd yn synhwyrydd cyffwrdd cynhwysaidd, gan ei fod yn defnyddio mesuriadau cynhwysedd trydanol i weithio.
- Mae'r bloc 'wrth gyffwrdd logo' yn cael ei sbarduno pan fyddwch yn cyffwrdd â'r logo'n gyntaf.
- Mae'r bloc 'wrth ryddhau logo' yn synhwyro pan fyddwch yn rhyddhau'r logo a bydd y rhaglen yn clirio'r dangosydd.
- Mae 'wrth gyffwrdd logo' yn sbarduno'n unig pan fyddwch yn rhoi eich bys ar y logo'n gyntaf, yn wahanol i'r bloc 'wrth wasgu logo' a ddefnyddiwyd yn y Prosiect bathodyn emosiwn cyffwrdd, sy'n cael ei sbarduno'n unig pan fyddwch yn cyffwrdd ac yn rhyddhau'r logo, gan ei wasgu fel botwm.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd gyda sain (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen gydag eiconau gwahanol, neu dynnu llun eich eiconau eich hun
- Ychwanegu sain er mwyn i'ch micro:bit wneud sŵn pan fyddwch yn cyffwrdd ag ef
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.