Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddiwch eich BBC micro:bit fel cofnodwr data i arolygu pethau a welwch, fel gwahanol fathau o draffig neu fywyd gwyllt, neu atebion i gwestiynau.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Wrth bwyso botwm, mae'r micro:bit yn cofnodi'r hyn rydych chi wedi'i weld ac yn storio'r data mewn tabl er mwyn i chi allu eu dadansoddi'n nes ymlaen.
Mae data'n aros ar eich micro:bit hyd yn oed os byddwch yn datgysylltu'r batris neu'r cebl USB, felly gallwch chi eu hastudio pan fyddwch chi'n ôl wrth eich cyfrifiadur.

Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit V2
- cyfrifiadur a chebl USB meicro ar gyfer codio'r micro:bit a gweld eich data
- pecyn batri micro:bit (dewisol ond argymhellir)
- efallai y bydd ein canllaw cofnodi data yn ddefnyddiol
Casglu data
- Trosglwyddwch y rhaglen isod i'ch micro:bit.
- Gallwch chi recordio data yn unrhyw le os byddwch yn dad-blygio'r micro:bit o'ch cyfrifiadur ac yn cysylltu pecyn batri.
- Mae tic yn ymddangos i ddangos ei fod yn barod i ddechrau cofnodi.
- Mae unrhyw ddata blaenorol yn cael eu dileu pan fyddwch yn trosglwyddo cod newydd i'ch micro:bit, ond gallwch hefyd ddileu unrhyw hen ddata trwy bwyso'r botymau A a B gyda'i gilydd.
- Pwyswch y botwm A i gofnodi pan welwch gar, botwm B pan welwch fws a phwyswch y logo cyffwrdd aur pan welwch lori.
AWGRYM: Gwnewch yn siŵr eich bod yn dal eich micro:bit wrth yr ymylon fel nad ydych yn cofnodi unrhyw ddata ar ddamwain.
Dadansoddwch eich data
- Pan fyddwch wedi casglu eich data, plygiwch y micro:bit i mewn i gyfrifiadur. Mae'r micro:bit yn ymddangos fel gyriant USB o'r enw MICROBIT.
- Agorwch y ffeil MY_DATA i weld tabl o'r holl draffig a gofnodwyd gennych yn eich porwr gwe:


- Mae'r amseroedd a gofnodwyd yn y tabl yn dangos faint o amser a aeth heibio ers i'ch micro:bit gael ei droi ymlaen.
Gallwch:
- Adio cyfanswm pob colofn i wneud eich colofn neu siart bar eich hun i ddelweddu data eich arolwg.
- Pwyswch y botwm copïo i gopïo'r data fel y gallwch eu cludo'n syth i mewn i daenlen. Defnyddiwch swyddogaeth SUM y daenlen i gyfrif cyfanswm pob math o gerbyd.
- Lawrlwythwch y data fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu gan goma) y gallwch chi hefyd ei mewnforio i daenlen.

Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ailgymysgwch y cod i gyfrif gwahanol bethau:
- gwahanol fathau o fywyd gwyllt yn eich ardal
- cynnal patrôl sbwriel i gyfrif ailgylchu, compost a sbwriel arferol
- cynnal arolwg o sut mae pobl yn cyrraedd yr ysgol, er enghraifft, cerdded, bws neu feic
- cynnal arolwg o bleidleisiau pobl dros ddewisiadau gweithgareddau
- Dadansoddwch eich data, ysgrifennwch eich canfyddiadau a'i gyflwyno'n ôl i bobl yn eich ardal. Allwch chi eu hysgogi i newid ymddygiad o amgylch dulliau teithio neu ailgylchu sbwriel?
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.