Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio nifer o micro:bits i wneud gêm helfa drysor gorfforol gan ddefnyddio cyfathrebiadau radio.
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect tywysydd curiad calon, mae'n defnyddio dwy raglen wahanol, un i drosglwyddo signalau radio, a'r llall i dderbyn y signalau.
- Fflachio rhaglen y tywysydd (trosglwyddydd) ar wahanol micro:bits, gan sicrhau eich bod yn newid y newidyn id fel bod pob un yn wahanol. Mae'r tywysyddion yn dangos eu rhif ID am gyfnod byr ar y dangosydd, fel eich bod yn adnabod pob tywysydd yn unigol. Cysylltu pecynnau batri ac wedyn cuddio'r tywysyddion sy'n trosglwyddo eu rhif ID bob 200 milieiliad (0.2 eiliad).
- Fflachio cod y derbynnydd ar micro:bits ar gyfer yr helwyr trysor. Gellir defnyddio'r un rhaglen hon ar gyfer pob derbynnydd. Pan fyddwch yn mynd yn agos at dywysydd, bydd rhaglen y derbynnydd yn dangos y rhif ID mae'n ei ddarlledu. Bydd y dangosydd yn fflachio pan fyddwch yn fwy pell a bydd yn dod yn fwy cyson wrth i chi symud yn agosach.
- Gwneud eich rheolau eich hun ar gyfer y gêm – nodi'r rhifau a'u lleoliad, neu gasglu'r tywysyddion micro:bit corfforol. Y tîm sydd â'r nifer mwyaf fydd yn ennill.
Beth sydd ei angen arnoch
- Sawl micro:bit a phecynnau batri
- Golygydd MakeCode neu Python
- lle digon mawr i guddio'r tywysyddion ynddo – gallai fod o dan do neu yn yr awyr agored
Cam 2: Codio
Tywysydd / trosglwyddydd
Derbynnydd
Cam 3: Gwella
- Newid pŵer y trosglwyddydd i gwmpasu ardal fwy neu lai. Gall y pŵer fod yn unrhyw rif o 0 i 7.
- Lleihau pŵer radio'r tywysyddion eto i'w gwneud yn anodd dod o hyd iddynt – bod yn ofalus i beidio â rhoi'r micro:bits yn uniongyrchol mewn cynhwysyddion metel, ond os byddwch yn rhoi un mewn blwch plastig neu gardfwrdd ac yna'n gorchuddio tu allan y blwch yn rhannol mewn ffoil tun, er enghraifft, ni fydd y signalau radio'n teithio mor bell.
- Mae trosglwyddo signalau radio'n defnyddio mwy o bŵer, felly gallwch wneud i fatris y tywysyddion bara'n hwy drwy gynyddu'r oediad rhwng trosglwyddiadau i fwy na 200 milieiliad.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
Translation generously supported by the Welsh Government.