Skip to content

Gweithgaredd

Pa ffordd nawr?

Dechreuwr | MakeCode, Python | Dangosydd LED, Mesurydd cyflymiad | Ar hap, Dewis, Newidynnau, Offer perfformiad

Cam 1: Gwneud

Beth yw e?

Ysgwydwch eich micro:bit a chael cyfeiriad ar hap i gerdded. Byddwch yn dysgu am newidynnau, a defnyddio haprifau, blociau rhesymeg dewis a chymharu.

Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:

Cyflwyniad

Canllaw codio

Sut mae'n gweithio

  • Mae'r rhaglen yn defnyddio newidyn o'r enw “cyfeiriad” i storio haprif.
  • Mae newidynnau yn storio rhifau neu werthoedd a all newid mewn rhaglen gyfrifiadurol.
  • Ysgwydwch y micro:bit i osod “cyfeiriad” i haprif rhwng un a thri.
  • Yna mae'r rhaglen yn defnyddio blociau rhesymegdewis a chymharu i brofi gwerth y newidyn.
  • Os yw “cyfeiriad” yn hafal i 1, yna mae saeth sy'n pwyntio tua'r gogledd yn dangos ar sgrîn LED y micro:bit. Os yw “cyfeiriad” yn hafal i 2, yna mae'r saeth yn pwyntio tua'r dwyrain. Fel arall, mae'r saeth yn pwyntio tua'r gorllewin.
  • I wneud i'r batri bara'n hirach, mae'r rhaglen yn seibio am hanner eiliad ar ôl i'r saeth ymddangos ac yna'n clirio'r sgrîn.

Beth sydd ei angen arnoch

  • micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
  • Golygydd MakeCode
  • pecyn batri (dewisol ond argymhellir)

Cam 2: Codio

1# Imports go at the top
2
3
4
5from microbit import *
6import random
7
8while True:
9    if accelerometer.was_gesture('shake'):
10        random_number = random.randint(1, 3)
11        if random_number == 1:
12            display.show(Image.ARROW_N)
13        elif random_number == 2:
14            display.show(Image.ARROW_E)
15        else:
16            display.show(Image.ARROW_W)
17    sleep(2000)
18    display.clear()

Cam 3: Gwella

  • Ychwanegwch ragor o gyfarwyddiadau.
  • Defnyddiwch fotymau i ddangos eiconau ar gyfer sgipio, rhedeg a neidio.
  • Cyfunwch â'r rhaglen stopwats cyffwrdd i wneud offeryn ysgogi i'w ddefnyddio mewn gwersi chwaraeon.

Diolch i David Hay, addysgwr yn Alberta, Canada am rannu'r syniad gwych hwn am brosiect gyda ni.